Ezekiel 8

Ail Weledigaeth Eseciel

(8:1—10:22)

Addoli Eilunod yn y Deml

1Roedd hi chwe blynedd ar ôl i ni gael ein cymryd yn gaeth i Babilon, ar y pumed diwrnod o'r chweched mis.
8:1pumed diwrnod o'r chweched mis Medi 17, 592 CC mae'n debyg (14 mis ar ôl y weledigaeth gyntaf.)
Roeddwn i'n eistedd yn y tŷ gydag arweinwyr Jwda o'm blaen i. A dyma ddylanwad yr Arglwydd yn dod arna i.
2Wrth i mi edrych dyma fi'n gweld ffigwr oedd yn edrych fel person dynol. O'i ganol i lawr roedd fel fflamau tân, ac o'i ganol i fyny roedd yn llachar fel ffwrnais fetel. 3Dyma fe'n estyn ei law a gafael yn fy ngwallt. Yna cododd yr ysbryd fi i fyny i'r awyr a mynd â fi i Jerwsalem mewn gweledigaeth. Aeth â fi at ddrws y giât fewnol sy'n wynebu'r gogledd, lle roedd y ddelw oedd wedi gwneud yr Arglwydd mor ddig. 4A dyna lle roedd ysblander Duw Israel o'm blaen i, yn union yr un fath â'r hyn welais i yn y dyffryn y tro cyntaf.

5A dyma Duw'n dweud wrtho i: “Ddyn, edrych i gyfeiriad y gogledd.” Dyma fi'n edrych, a dyna ble roedd allor i'r ddelw oedd wedi gwneud Duw mor ddig. 6“Edrych beth mae'r bobl yn ei wneud!” meddai Duw. “Mae pobl Israel yn gwneud pethau cwbl ffiaidd, ac yn fy ngyrru i allan o'r deml. Ond mae yna bethau gwaeth na hyn!”

7Dyma fe'n mynd â fi at fynedfa'r cyntedd. Wrth i mi edrych dyma fi'n gweld twll yn y wal. 8“Torra trwy'r twll,” meddai Duw. Felly dyma fi'n gwthio drwy'r twll ac yn darganfod drws. 9“Dos i mewn, i ti gael gweld y pethau cwbl ffiaidd maen nhw'n eu gwneud yna!” meddai Duw 10Felly dyma fi'n mynd i mewn. Ar y waliau o'm blaen i roedd lluniau o bob math o ymlusgiaid a chreaduriaid ffiaidd eraill, a'r holl eilun-dduwiau mae pobl Israel wedi bod yn eu haddoli. 11Dyna lle roedd saith deg o arweinwyr Israel yn sefyll o flaen y lluniau yma oedd wedi eu cerfio ar y waliau, a Jaasaneia fab Shaffan yn y canol. Roedd pob un ohonyn nhw yn dal llestr i losgi arogldarth, ac roedd mwg yr arogldarth yn yr awyr ym mhobman. 12A dyma Duw yn dweud wrtho i: “Ddyn, wyt ti'n gweld beth mae arweinwyr Israel yn ei wneud yn y tywyllwch – pob un ohonyn nhw o flaen ei hoff eilun? ‘Dydy'r Arglwydd ddim yn gweld. Mae e wedi troi cefn ar y wlad,’ medden nhw. 13Ond rwyt ti'n mynd i weld pethau gwaeth fyth!”

14Dyma fe'n mynd â fi at giât y gogledd yn y deml. A dyna lle roedd merched yn mynd trwy'r ddefod o wylo ar ôl Tammws
8:14 Tammws Roedd pobl yn credu fod y duw Tammws yn marw bob blwyddyn yn y tymor sych. Yn ystod y mis Tammws (o tua canol Mehefin i ganol Gorffennaf), roedd merched yn wylo a galaru ar ei ôl, yn y gobaith o ddod ag e yn ôl yn fyw. gw. hefyd Daniel 11:37
, duw ffrwythlondeb Babilon!
15“Edrych ar hyn!” meddai Duw wrtho i. “Ond mae gwaeth i ddod eto!”

16Dyma fe'n mynd â fi i iard fewnol teml yr Arglwydd. Ac yno, wrth y fynedfa i'r cysegr, rhwng y cyntedd a'r allor, roedd tua dau ddeg pump o ddynion. Roedden nhw wedi troi eu cefnau ar y cysegr, ac yn wynebu'r dwyrain a plygu i lawr i addoli'r haul! 17“Edrych ar hyn!” meddai Duw wrtho i eto. “Ai peth bach ydy'r ffaith fod pobl Jwda'n gwneud y pethau ffiaidd yma? Maen nhw wedi fy ngwylltio i ddigon yn barod yn llenwi'r wlad hefo trais. A dyma nhw eto yn codi dau fys ata i!
8:17 codi dau fys ata i Hebraeg, “rhoi'r brigyn wrth eu trwynau”, sydd ym marn rhai yn idiom yn golygu sarhau neu amharchu rhywun.
18Bydda i'n ymateb yn ffyrnig! Fydd yna ddim trugaredd! Cân nhw weiddi am drugaredd faint fynnan nhw, ond wna i ddim gwrando.”

Copyright information for CYM